Cwdyn ‘Rush & Bark’ Pouch
Sat 06 Dec
|Tecstiliau, Y Bedol (Ground Floor Rear)
This rectangular pouch teaches a variety of rush basketry techniques in a day workshop. / Mae'r cwdyn hirsgwar hwn yn dysgu amrywiaeth o dechnegau basgedwaith brwyn yn y gweithdy.


Time & Location
06 Dec 2025, 10:00 – 16:00
Tecstiliau, Y Bedol (Ground Floor Rear), B4366, Bethel, Caernarfon LL55, UK
Guests
About the Event
[English below]
Mae'r cwdyn hirsgwar hwn yn dysgu amrywiaeth o dechnegau basgedwaith brwyn. Byddwch yn dysgu gwahanol batrymau gwehyddu i wehyddu sylfaen betryal, cyn ei hatodi i'r fforma i wehyddu'r ochrau a fydd yn cael eu creu gan ddefnyddio cyfuniad o batrymau gwehyddu, paru a pharu i’r gwrthwyneb mewn brwyn a rhisgl. Yn olaf, bydd yr ymyl yn cael ei throi i lawr i greu gorffeniad taclus i'ch cwdyn cyn ychwanegu strap brwyn cordeddog wedi'i bwytho i'r ochrau. Os bydd amser yn caniatáu, byddwch yn gallu ychwanegu togl broc môr (driftwood toggle) a dolen rhaffau (cordage loop) .
Darperir deunyddiau: brwyn, rhisgl a’r defnydd o offer ar eich cyfer.
Gwisgwch hen ddillad neu ffedog, mae menig yn ddewisol ond nid yn hanfodol.
Sylwch os gwelwch yn dda: Bydd angen i gyfranogwyr fod â chryfder a deheurwydd (dexterity) rhesymol yn eu dwylo i wehyddu.
Tiwtor / Tutor: Maggie Evans
Tickets
BarkPouch-06Dec25
This rectangular pouch teaches a variety of rush basketry techniques in a day workshop. / Mae'r cwdyn hirsgwar hwn yn dysgu amrywiaeth o dechnegau basgedwaith brwyn yn y gweithdy.
£55.00
Total
£0.00


